Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Unigolyn
1. Egwyddorion cyffredinol y Bil
1.1 A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?
Yn rhannol
1.2 Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)
Yr wyf yn bryderus am wneud Saesneg yn orfodol i blant bach. Dwi'n credu fod digon o Saesneg o'u cwmpas yn yr oedran hwnnw heb fod rhaid cyflwyno'r iaith iddynt yn ifanc. Dan bolisi addysg Gwynedd, doedd plant ddim yn cael eu cyflwyno i Saesneg mewn oedran ifanc, a doedd dim rheswm dros bryderu am safon eu Saesneg yn hwyrach.
Mater sy'n peri pryder mawr i mi ers nifer fawr o flynyddoedd yw'r diffygion mewn dysgu Hanes Cymru. Roedd pethau
yn ddrwg iawn pan ron i yn yr ysgol - fawr ddim o hanes Cymru, ond wedi i fy mab fynd drwy'r system, sylweddolais nad
oedd dim wedi newid. Fel fi, bydd rhaid iddo ddysgu am yr Ail Ryfel Byd (ond fod rhaid iddo fo ei hastudio yn y cynradd yn ogystal a'r uwchradd). Mae'r drefn wedi bod yn dysgu am yr Ail Ryfel Byd a'r Fictorianiaid ers tro, a hyn yn ei gyd-destun Prydeinig. Rhaid gweddnewid hyn ar fyrder fel bod plant Cymru yn cael sylfaen o hanes Cymru - ers talwm, a hanes diweddar. Dim ond o gael hyn y gallant wneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas. Hanes LLoegr gefais i fy nysgu, a dim
o hanes Iwerddon a'r Alban. Os caiff ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae Hanes yn cael ei ddysgu drwy lygaid Prydeinig. Mae yna ddiffyg cyfarwyddyd, a mesurau i sicrhau fod Hanes Cymru yn cael ei ddysgu yn iawn.
Hefyd, dwi'n pryderu nad yw plant Cymru yn dysgu ddigon am imperialaeth, am sut daeth yr Ymerodraeth Brydeinig i
fod, a sut ddaru hyn effeithio ar bobl dduon. Mae angen dileu hiliaeth yn ein hysgolion, ac un ffordd o wneud hyn yw
dysgu am gaethwasiaeth, a gormes fu ar bobl ddu drwy'r oesau.
1.3 A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Ydw
2. Gweithredu’r Bil
2.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
2.2 A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
3. Canlyniadau anfwriadol
3.1 A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
4. Goblygiadau ariannol
4.1 A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
5. Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth
5.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)
-
6. Ystyriaethau eraill
6.1 A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)
-